Yn eironig, ac yntau gydag enw fel un i’w ofni a’i fedrau paffio a arweiniodd iddo ennill pob un o’i 46 gornest broffesiynol, ac ymddeol yn bencampwr diguro y byd yn yr adrannau pwysau canol a godrwm, dioddefodd Joe dan ddwylo bwlis yn ei ddyddiau ysgol. Er nad yw Joe yn ystyried ei hunan yn ddioddefwr, mae’n ymwybodol bod profiadau trist ei ieuenctid wedi chwarae rhan wrth lunio ei fywyd.
“Rydw i’n falch fy mod yn rhan o ymgyrch genedlaethol gwrthfwlio fel Noddwr yr elusen plant Curobwlio. Rwy’n codi’n llais nawr gan fy mod wedi ei chael mor anodd i ddweud dim yr amser hynny. Doeddwn i ddim yn gwybod ble i droi. Nawr mae gennyf lais ac rwyf am ei ddefnyddio i ddweud wrth blant sy’n cael eu bwlio nad arnynt hwy mae’r bai. Byddwch yn onest, peidiwch â chywilyddu, ceisiwch gymorth a siaradwch am y peth. Dydi cael eich bwlio ddim yn golygu eich bod yn wan, a dydi bob yn fwli ddim yn golygu bod yn gryf ยดยด
Jamie Baulch – Mae’r athletwr Olympaidd Cymreig Jamie Baulch yn cefnogi Curobwlio Cymru. Mae Jamie’n helpu trefnu digwyddiad codi arian arbennig yn Cineworld, Caerdydd a bydd yn dangos ei gefnogaeth yn ystod ein cyflwyniad i’r wasg.
Lynne Allbutt - Mae Lynne yn Gyflwynwraig Teledu, yn Gynllunwraig Gerddi ac yn Arbenigwraig ar Arddwriaeth. Mae hi wedi rhoi ei hamser i gefnogi Curobwlio Cymru drwy fod yn rhan o’n pwyllgor codi arian, ac mae hi’n ymgymryd â sialens Hanner Marathon Caerdydd i godi arian at Curobwlio. Gallwch helpu Lynne i godi arian drwy ei noddi hi ar www.justgiving.com/lynneallbuttbeatbullying