Rydym ar hyn o bryd yn codi arian i weithredu mewn ysgolion ar draws Cymru o fis Hydref, gan weithio gyda chymunedau ac ymwneud gyda rhieni a gofalwyr. Os gallwch chi helpu Curobwlio yn ariannol, cysylltwch gyda rebecca.davies@beatbullying.org neu fe allwch alw Rebecca ar 02920 461652.
Rydym yn hynod ddiolchgar bod gennym gefnogaeth nifer o fusnesau a chyrff gwych yng Nghymru.
![]()
Rydym yn hynod falch mai SPAR yw ein partner manwerthu cyntaf yng Nghymru.
Trwy eu cefnogaeth hael, bydd ein bandiau arddwrn argraffiad cyfyngedig glas ar gael mewn siopau ar draws De Cymru ar gyfer Wythnos Gwrth-Fwlio eleni o Dachwedd 16 2009 ymlaen

Rydym wrth ein boddau bod yr athletwr Olympaidd Cymreig, Jamie Baulch yn cefnogi Curobwlio Cymru ynghyd â Cineworld yng Nghaerdydd ac mae wedi helpu trefnu noson codi arian yn y sinema ar ddydd Iau, Tachwedd 20. Bydd dangosiad arbennig o Dirty Dancing i ddathlu ffaith bod ein noddwr, Joe Calzaghe’n cymryd rhan yn Strictly Come Dancing; gobeithwn godi dros £2000! Am docynnau, cysylltwch â Rebecca Davies.

www.cardiffagainstbullying.co.uk
Mae Curobwlio yn falch ein bod yn cydweithio gyda Chaerdydd yn erbyn Bwlio (Tîm gwrth-fwlio Cyngor Caerdydd) i ddarparu ein gwaith atal bwlio yn ysgolion Caerdydd. Rydym yn hynod ddiolchgar am eu cyfraniad a fydd yn talu am weithdy BBSports yn Ysgol Uwchradd Cathays.

Mae HSBC yn garedig wedi noddi ein gweithdy SeiberFentoriaid yn Ysgol Uwchradd Cathays - diolch i chi!

Diolch yn fawr i Gronfa Gymunedol Dewi Sant 2 a gyfrannodd arian i dalu am BBMusic yng Nghaerdydd!
Diolch anferthol i Gwirvol, prosiect ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru sy’n cael ei gefnogi gan y Cynulliad Cymreig. Bydd ei gyfraniad yn talu am weithdai SeiberFentoriaid mewn colegau AB yng Nghymru.
Mae gennym grwp brwdfrydig o gefnogwyr Cymreig a phobl busnes llwyddiannus sydd wedi gwirfoddoli i helpu lansio Curobwlio Cymru fel rhan o’n pwyllgor digwyddiadau. Mae’r gweithgareddau sydd wedi eu cynllunio’n cynnwys cinio arbennig, dan lywyddiaeth Joe Calzaghe yn y Celtic Manor ym mis Mawrth i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Curobwlio Cymru. Bydd mwy o fanylion ar ein gwefan yn fuan.