Siaradwch â’ch plentyn am eu profiadau. Efallai byddwch yn amau bod rhywbeth o’i le neu fod yr ysgol wedi cysylltu gyda chi. Y peth gwaethaf y gallwch ei wneud yw anwybyddu’r broblem sy’n effeithio ar eich plentyn. Mae’r cyngor hwn yn briodol os ydynt wedi cael eu bwlio a chithau wedi darganfod hynny, neu os ydynt wedi eu cyhuddo o fwlio.
Gall fod yn anodd iawn i gadw’n gytbwys ac ymbwyllo yn y sefyllfaoedd hyn oherwydd rydych ynghlwm yn emosiynol, ond mae’n bwysig eich bod yn ceisio esbonio eich pryderon ac ofnau mewn modd nad yw’n fygythiol nac yn ymosodol.
Cysylltwch gydag athro/awes eich plentyn
Efallai bod hyn yn broblem gwrthdaro rhwng eich plentyn a phlentyn arall, a bydd yr athro/awes yn gallu ei ddatrys. Efallai bod gennych ddealltwriaeth neu ddarlun rhannol o’r hyn a allai fod yn digwydd neu gonsyrn am yr hyn a ddatgelwyd. Nid yw pob sefyllfa gwrthdaro rhwng plant o anghenraid yn broblemau bwlio.
Os ydych yn teimlo nad ymdriniwyd â’r sefyllfa, neu ei datrys gofynnwch am weld polisi gwrth-fwlio’r ysgol. Astudiwch y polisi a nodi pwyntiau yr ystyriwch nad ydynt yn derbyn sylw.
Trefnwch i weld y Pennaeth
Gall hyn weithiau fod yn anodd ond gwnewch yn glir eich bod am siarad gydag ef neu hi cyn gynted ag y bo modd. Bydd Cynorthwyydd Personol y Pennaeth weithiau’n ceisio eich cyfeirio at aelod staff arall; os yw hyn yn digwydd, gwnewch yn glir mai gyda’r Pennaeth rydych am siarad. Trafodwch y sefyllfa gyda’r Pennaeth gan gyfeirio at bolisi gwrth-fwlio’r ysgol. Rhowch amser i’r Pennaeth ddatrys y sefyllfa ond gwnewch yn glir mewn llythyr eich bod yn disgwyl ymateb.
Os ydych o hyd yn teimlo na ddeliwyd â’r broblem, gofynnwch i’r ysgol am fanylion cyswllt y Bwrdd Llywodraethwyr. Ysgrifennwch at y Bwrdd gan fynegi eich pryderon a pham rydych chi’n teimlo nad yw’r broblem wedi ei datrys.
Am gyngor a chymorth manylach ymwelwch â:
http://www.beatbullying.org/docs/help/help-for-parents.html