Gwnewch gyfraniad at Curobwlio >>
Gwnewch gyfraniad cyson ar-lein nawr >>
Mae’n hawdd iawn cyfrannu’n gyson tuag at Curobwlio ac mae rhodd gyson yn caniatáu i ni gynllunio’n well a defnyddio’n hadnoddau’n llawer mwy effeithiol, os gwyddom fod rhodd gyson ar ei ffordd gennych bob mis.
Mae ein gwasanaeth ar-lein i gyfrannu rhoddion yn ddiogel ac yn cael ei reoli ar ein cyfer gan CAF (Charities Aid Foundation). Fel hyn mae eich rhodd, a’r Rhodd Cymorth y gallwn ei hawlio ar ben hynny, yn cael ei wneud yn electronig gan CAF, sy’n arbed oriau o waith papur i ni!
Os byddwch chi’n talu treth yn y DU yna gallwn hawlio rhodd cymorth ar eich rhodd.
Rhodd fisolCost wirioneddol ar gyfer rheini sy’n talu treth o 22%
Cost wirioneddol ar gyfer rheini sy’n talu treth o 40%
Byddai’n well gen i yrru siec
Er bod y mwyafrif o roddion yn cael eu gwneud ar-lein a thrwy roddion cyflogres, mae’n well gan rai pobl o hyd gyrru siec atom.
Curobwlio Cymru
Tŷ Sophia,
28 Heol y Gadeirlan,
Caerdydd, CF11 9LJ
Gallwch ffonio’r tîm codi arian ar 02920 461652
Mae sefydlu debyd uniongyrchol yn hawdd iawn ac mae’n caniatáu i chi roi rhodd i ni heb orfod cofio amdano bob mis. Y cwbl sydd ei angen i chi wneud yw gyrru gair atom drwy fundraising@beatbullying.org neu roi galwad ffôn atom ar 0845 338 5065 ac fe’n tywyswn ni chi drwy’r broses, a sefydlu debyd uniongyrchol ar eich cyfer.
Gallwch ddewis gwneud cyfraniad misol, chwarterol neu flynyddol - pa bynnag ffordd y dewiswch, byddwch yn gwybod bod eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc a effeithir gan fwlio.
Os ydych yn talu trethi yn y DU, gallwn hawlio swm ychwanegol ar ben eich rhodd drwy Rodd Cymorth. Os oes gennych brintydd, lawrlwythwch y ffurflen Gift Aid/Rhodd Cymorth, ei brintio, ei gwblhau a’i ddychwelyd atom gyda’ch siec, i’r cyfeiriad uchod.