Hydref 15 2009
Cafodd lansiad Curobwlio Cymru sylw anhygoel yn y wasg ar draws Cymru Ar-lein a’r BBC. Edrychwch ar rai o’r sylwadau a rhai o’r ffotograffau o bobl ifanc ac enwogion a gymerodd ran yn y lansiad.
![]()
Curobwlio (Beatbullying yn Saesneg) yw prif elusen y DU i atal bwlio. Fe’i sefydlwyd yn 1999, ac mae ein hymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol wedi ennill cefnogaeth arwyddocaol gan lawer o athrawon a myfyrwyr yng Nghymru sydd wedi mynegi’r awydd i Curobwlio gyflwyno ein gwaith atal bwlio yn eu hysgolion. Felly, dan arweiniad ein noddwr Cymreig, Joe Calzaghe - sydd wedi siarad yn rymus am ei brofiad hunllefus o gael ei fwlio - mae gennym grwp ymroddedig o gefnogwyr Cymreig a phobl busnes llwyddiannus sydd wedi gwirfoddoli i helpu lansio Curobwlio Cymru ym mis Hydref 2009, a galluogi pobl ifanc yng Nghymru i elwa o’n profiad yn y gwaith.
Bydd Curobwlio Cymru’n defnyddio gweithdai sy’n ffocysu ar chwaraeon (BBSports), cerddoriaeth (BBMusic) a chyfryngau newydd (CyberMentors) i gyflyru pobl ifanc, gan eu galluogi i arwain ymgyrchoedd atal bwlio mewn ysgolion a chymunedau. Mae Curobwlio wedi gweithio gyda 700,000+ o bobl ifanc yn Lloegr dros y 5 mlynedd diwethaf, yn helpu’r rhai sy wedi cael eu bwlio, ail-addysgu a newid ymddygiad y rhai sy’n bwlio, lleihau bwlio mewn ysgolion a chymunedau. Rydym yn dyfeisio strategaethau gwrth-fwlio ar gyfer pobl ifanc gan bobl ifanc sy’n ffocysu ar addysg ‘cyfoedion i gyfoedion’.
Pan fydd Curobwlio yn ymyrryd, mae ein model atal, sydd wedi ei brofi’n annibynnol, yn lleihau achosion bwlio o 43% ar gyfartaledd mewn ysgolion y DU; mae adrodd am fwlio a thrais plentyn at blentyn yn codi o 60% wrth i bobl ifanc deimlo’n fwy parod i geisio cymorth.
Bydd cyflwyno rhaglenni atal bwlio blaengar yng Nghymru yn lleihau bwlio, gostwng lefelau triwantiaeth, codi cyflawniad a lleihau digwyddiadau treisiol a chamdriniaeth hiliol a homoffobaidd yn ein hysgolion.
Am fwy o wybodaeth am Curobwlio, ymwelwch â gwefan www.beatbullying.org