empty

 

 

 

 

Yr hyn rydym yn ei wneud

Mae Curobwlio’n gweithio gyda phobl ifanc i leihau ac atal bwlio. Rydym ni’n grymuso pobl ifanc i arwain ymgyrchoedd gwrth-fwlio yn eu hysgolion a’u cymunedau lleol, ac adeiladu gallu cymunedau lleol i gynnal y gwaith.

Rydym ni’n darparu cefnogaeth gwrth-fwlio a gweithdai ar gyfer ysgolion, cymunedau a phobl ifanc sy’n eu galluogi i ddyfeisio eu strategaethau ac atebion eu hunain. Mae pob un o’n rhaglenni’n seiliedig ar addysgu ‘cyfoedion i gyfoedion’, gan annog pobl ifanc i weithredu yn erbyn achosion bwlio a helpu eraill i ymladd yn erbyn y broblem.

Rydym yn:

  • cefnogi'r rheini sydd wedi cael eu bwlio - i wella’u hyder, eu helpu i oresgyn bwlio a’u galluogi i gyflawni eu potensial.

  • gweithio gyda bwlis - i helpu newid eu hymddygiad

  • helpu sefydlu strategaethau sail-ysgol neu gymuned sy’n lleihau ac atal achosion o fwlio

  • gwrando ac ymateb i anghenion y bobl ifanc rydym yn gweithio gyda hwy - hwy sy’n cyfeirio beth fyddwn ni’n ei wneud a sut byddwn ni’n ei wneud.



Curobwlio | Elusen gofrestredig Rhif 1097631